Gwisgoedd I Fynd Gofynnwch I Ni
Gwisgoedd I Fynd Gofynnwch I Ni
Hafan
Latest News
Amdanom Ni
Dillad o Dras
Retro Cosumes
Ffantasi
Gwisgoedd Ffansi
Cyfwisgoedd
Ffrogiau Bach Du
Gwasanaeth Pwrpasol
Sioeau Cyflawn
Hurio Celfi ac Offer
Cysylltu a ni
Tystlythyrau
Sylw'r Wasg
Fersiwn Saesneg

Copyright Costumes to Go 2010
All rights reserved











































Amdanom ni

Tîm bach ydym ni, ond rydym yn ymroddgar iawn, ac mae gennym flynyddoedd o brofiad o ddylunio gwisgoedd ac offer/celfi:

Mae Maureen Rhys (Cyfarwyddwr) wedi gweithio ers ugain mlynedd yn y diwydiant gwisgoedd proffesiynol, yn dylunio a darparu gwisgoedd ar gyfer teledu a theatr broffesiynol yn Llundain a Chymru. Mae ei gwaith proffesiynol yn y BBC yn cynnwys ‘The Two Ronnies’, ‘Big Deal’, ‘Eastenders’, ‘Top of the Pops’ a Hotel Du Lac. Ymhlith y gwaith annibynnol mae Rhacsyn A’r Goeden Hud, Dinas, Morfydd, Cyw Haul, Y Glas a Phelydr X a chafodd ei henwebu am BAFTA Cymru ym 1988. Mae Maureen hefyd wedi steilio nifer o sêr ar gyfer ymddangosiadau ar y teledu ac mae hi’n hapus i rannu a defnyddio’i sgiliau a’i gwybodaeth eang ar gyfer y busnes newydd cyffrous hwn.

Mae gan Deborah Rees (Cyfarwyddwr) dros ddeng mlynedd o brofiad mewn drama amatur (perfformio, cyfarwyddo a gwisgoedd/offer/celfi), a chyfunodd ei sgiliau rheoli proffesiynol â’i brwdfrydedd am y theatr, i helpu sefydlu’r busnes newydd Gwisgoedd i Fynd. Mae hi hefyd wedi ei hyfforddi i dorri patrymau a chreu, ac mae wedi dylunio a chreu dillad ar gyfer allfeydd manwerthu.

Mae GWISGOEDD I FYND yn cynnig:

  • Amrywiaeth gynhwysfawr o wisgoedd uchel eu hansawdd
  • Darnau gwreiddiol ac atgynyrchiadau
  • Stoc helaeth o offer/celfi rhagorol
  • Setiau a gwisgoedd ar gyfer sioeau cyfan
  • Casgliad o wisgoedd retro a hen wisgoedd o’r 1930au
  • Detholiad sylweddol o gyfwisgoedd a wigiau
  • Stoc helaeth o offer/celfi o ansawdd uchel
  • Cyfleusterau pwrpasol ar gyfer dylunio a chreu gwisgoedd ac offer/celfi
  • Stoc helaeth o wisgoedd ar gyfer ieuenctid
  • Staff profiadol a fydd yn cynnig gwasanaeth effeithlon a phersonol
  • Parcio ar y safle

Deborah Rees (Cyfarwyddwr)
Maureen Rhys (Cyfarwyddwr)

Costumes To Go
Unit 20
Delta Lakes Enterprise Centre
The Avenue
Delta Lakes
LLANELLI
SA15 2DS

Tel: 01554 741114
Fax: 01554 741114
Email: info@costumestogo.co.uk

Gwisgoedd i Fynd

MAE EIN STOC YN TYFU – FELLY HOLWCH…A GADEWCH Y CYFAN I NI!

logos
www.foothold.org.uk