Newyddion Diweddaraf
DIWRNODAU HYFFORDDI
Yn ogystal â’n diwrnodau hyfforddi athrawon, mae Gwisgoedd i Fynd hefyd yn medru cynnig diwrnodau hyfforddi ac ymweliadau addysgol i fyfyrwyr ysgolion uwchradd a cholegau. Yn ystod yr ymweliadau hyn gallwn gynnig sesiynau wedi’u teilwra’n arbennig ar bob agwedd o’r diwydiant gwisgoedd.
 |
ACTAU TEYRNGED
mae gennym gwsmer newydd, hynod dalentog (Cheryl Davies) neu Madame Gaga. Rydym wedi dylunio a chreu ei gwisgoedd trawiadol ar gyfer y llwyfan i’w helpu ar ei ffordd i wireddu ei phersona rhagorol ar gyfer ei theyrnged aruthrol a manwl gywir i Lady Gaga. Fe fydd ein comisiwn nesaf yn ddehongliad o wisgoedd mwyaf beiddgar Lady Gaga yng ngwobrau VMA .
www.madamegaga.com |
“Roedd y staff yn Gwisgoedd i Fynd yn groesawgar iawn ac yn hynod o frwdfrydig ynghylch dylunio’r gwisgoedd ar gyfer fy sioe deyrnged i Lady Gaga. Gwnaed y gwisgoedd yn fanwl gywir ac roedd eu hansawdd yn dda yn fy marn i. Rwyf wrth fy modd â’r canlyniadau. Cefais adborth positif iawn gan y gynulleidfa ac fe wnaeth y gwisgoedd helpu i sicrhau mai fy sioe deyrnged innau i Lady Gaga oedd
y gorau"
Madame Gaga |