Welcome to Costumes to Go – Ask us, we'll asc on it
Home
Latest News
About Costumes to Go
Beauty and the Beast
Period Costumes
Retro Cosumes
Fantasy Costumes
Fancy Dress
Accessories
LBD
Bespoke Service
Complete Shows
Prop Hire
Contact Costumes to Go
Testimonials
Media Coverage
English Version

Copyright Costumes to Go 2010
All rights reserved













Telerau ac Amodau Llogi

  • Rhaid talu blaendal ar yr adeg y byddwch yn cadarnhau eich fod am logi
  • Rhaid talu’r swm sy’n weddill pum diwrnod cyn casglu
  • Mae’r cyfnod llogi yn cychwyn o’r dyddiad casglu tan y dyddiad sydd wedi ei nodi ar yr anfoneb/derbynneb.
  • Codir tâl am unrhyw gyfnodau llogi ymestynnol yn unol â’r cyfnodau dan sylw.
  • Pan fydd y gwisgoedd yn ein gadael, cyfrifoldeb y sawl sy’n llogi yw sicrhau eu bod yn dychwelyd yn yr un cyflwr.
  • Byddwn yn archwilio pob eitem wedi iddynt ddychwelyd atom - bydd rhaid i’r sawl sy’n llogi, dalu am unrhyw ddifrod.
  • Ceidw’r rheolwyr yr hawl i godi tâl hyd at werth llawn y wisg.
  • Ar ddisgresiwn y rheolwyr, ni fyddwn yn ad-dalu blaendaliadau na ffioedd llogi os na fydd eitemau yn cael eu casglu neu os bydd y sawl sy’n llogi yn canslo.
  • Fe fydd yna dâl gosb am eitemau sy’n cael eu dychwelyd yn hwyr.
  • Pe byddai Gwisgoedd i Fynd yn colli cyfleoedd llogi, codir tâl llogi ychwanegol.
  • Fe fydd Gwisgoedd i Fynd yn darparu gwisgoedd yn ôl y mesuriadau a ddarperir gan y sawl sy’n llogi, felly nid yw’n derbyn cyfrifoldeb am ddillad a ystyrir yn anaddas neu sydd ddim yn ffitio. Ni roddir ad-daliad yn yr achos hwn. Dylid mesur yn ofalus er mwyn sicrhau bod y dilledyn yn gyffyrddus, gan roi ystyriaeth i ba bwrpas y bwriedir y dilledyn.
  • Fe fyddwn yn codi’r tâl yn llawn p’un ai a ddefnyddiwyd y wisg ai peidio.
  • Ni all Gwisgoedd i Fynd sicrhau bod pob gwisg wedi ei diogelu yn erbyn tân, felly rhaid bod yn ofalus iawn wrth eu gwisgo.

  • Mae ein telerau ac amodau yn amodol ar ddisgresiwn y rheolwyr ac nid ydynt yn effeithio ar hawliau statudol y cwsmer..